Locale

Yng nghyd-destun meddalwedd mae locale yn set o baramedrau sy'n diffinio iaith a gwlad neu leoliad y defnyddiwr yn ogystal ag unrhyw ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar gyflwyniad gwybodaeth.

Fel arfer mae dynodwr locale yn cynnwys o leiaf dynodwr iaith a dynodwr rhanbarth. Mae cy_GB yn nodweddiadol ar gyfer y Gymraeg yng ngwledydd Prydain.

Mae'n gallu dylanwadu ar y drefn coladu, fformatau dyddiad ac amser, confensiynau arian a rhif, iaith enwau llefydd, misoedd ac yn y blaen. Mae'r Storfa Ddata Iaith Gyffredin ( CLDR ) yn rhan o Unicode ac mae'n cadw gwybodaeth locale ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd a rhanbarthau.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search